Monday 8 December 2008

cristnogaeth21.org

"If you take the Christ out of Christian - you're left with Ian."


Sdim byd gwaeth na cael eich gwahodd rownd i dŷ rhywun am fowlen o gawl (neu lob sgows) a pan chi’n cyrraedd sdim cig yn y cawl, just llysie yn nofio mewn dwr llwyd suspicious. Wel i fod yn onest ma na lot o bethe gwath, ond mae’n dod yn uchel ar fy rhestr o siomedigaethau.

Dyma sut o’n i’n teimlo ar ôl darllen erthygl am Iesu ar y wefan Cristnogaeth 21. Mae’r erthygl am Iesu yn son am ei ddynolrwydd, gan ddweud ei fod yn bererin doeth ond yn amau y ffaith ei fod yn Dduw. Yn yr un ffordd mae’r erthygl yn amau ysbrydoliaeth yr Ysgrythur gan ddweud fod credu mai Gair Duw yw’r Beibl yn rhyw fath o idol worship.

“Yn hynny o beth rwy wedi teimlo mod i mewn cytgord ag aelodau y Jesus Seminar a sefydlwyd ynghanol yr wythdegau gan Robert Funk a John Dominic Crossan... Y mae mwyafrif y rhai a fu’n gysylltiedig â’r Jesus Seminar dros yr ugain mlynedd diwethaf yn gweld Iesu yn bererin arbennig o ddoeth a galluog. Nid dyn dwyfol a fu farw fel pridwerth dros bechaduriaid. nac ychwaith yn ail berson y Drindod a atgyfodwyd o farw’n fyw.”

“...fe aethon nhw ar eu pen i ddelwaddoliaeth arall sef delwaddoliaeth yr ysgrythur, gan greu eto ryw deml o athrawiaethau am Iesu a oedd yn eu golwg hwy yn gwbl hanfodol i iachawdwriaeth, a’r groes hyd yn oed yn bwysicach na Iesu.”

Fel dwi’n siwr y bydde chi’n cytuno, sdim pwynt bwyta’r cawl heb y cig – mae’r un peth yn wir am syniadau Cristnogaeth21 am Iesu a’r Beibl. Os nad yw Iesu’n Dduw beth yw’r pwynt credu ynddo? Dydw i ddim am eiliad eisiau gwastraffu fy mywyd yn credu mewn pererin doeth o Israel. Ond dwi wedi rhoi fy mywyd i wasanaethu Duw – a Mab Duw nath farw drosta i, oherwydd ei gariad a’i gyfiawnder perffaith.

Yn yr un ffordd dydw i ddim yn gallu dychmygu darllen yr Ysgrythur heb gredu mai Gair Duw ydyw. Mae’r llyfr yn siarad gyda fi o hyd, mae Duw yn defnyddio‘r Beibl i siarad gyda mi am bob agwedd o fy mywyd ac i ddod a mi yn agosach ato Fe.

Os nad yw’r pethau ma’n wir, mae Cristnogaeth yn cwympo’n ddarnau. Iesu Grist yn colli ei ddwyfoldeb – proffwydoliaethau’r proffwydi yn yr Hen Destament yn gelwydd hynod o coincidental– y Beibl yn colli ei hawl i fod yn Air Duw- y Drindod yn cael eu diddymu – yn sydyn mae’r rhan fwyaf o’r ffydd Cristnogol wedi’i daflu i’r recycle bin a’r sŵn crunch na’n dod wrth i rhywun ei wagio.

Mae tynnu Crist allan o Gristnogaeth fel tynnu’r cig allan o’r cawl – mae’n useless.

O.N. ymddiheuriadau i unrhyw lysieuwr sy’n darllen. Newidiwch y darlun i nut roast heb gnau!

Un comment diddorol arall yw bod aelodau ein capeli ni a pobl yn gyffredinol methu credu yn Iesu sydd yn Dduw a dyna pam dy ni wedi colli fy ngenhedlaeth i a'r un cynt. Mae angen gofyn y cwestiwn pam mai’r capeli sy’n addoli Iesu fel Arglwydd, Gwaredwr a Duw yw’r rhai sy’n tyfu yma yng Nghymru? Pam mai’r rhai sy’n dal at gredoau’r Ysgrythur sydd yn tyfu ac yn gweld ffrwyth?


Dwi'n darllen llyfr gan Bill Hybels a Ken Blanchard ar gyfer fy nghwrs a dwi di dod ar draws stori am gymeriad o'r enw Carla,

"Carla became increasingly uncomfortable with their weekly trip to church. For one thing, she felt that something was missing in the pastor's messages... God was mentioned in only a remote way, and Jesus was portrayed as a mystical figure about whom controversy still raged. The Bible was referred to, but copies were not visible - except for the large ornamental version displayed on the altar. She couldn't quite put her finger on what was wrong, but Carla knew there must be something more to a religious experience than what they were experiencing."

sound familiar? mae'n edrych fel bod rhywun wedi bod yn dwyn y cig o cawl Carla hefyd!

Crefydd go iawn - Iesu Grist go iawn - Ysgrythur go iawn

ma unrhywbeth arall yn ddibwynt, ac yn wastraff amser. Peidiwch a trio dyfeisio eich Iesu delfrydol. Mae'r un sydd yn bodoli eisioes werth nabod!

Tuesday 2 December 2008

Breian a Fi



Dwi newydd gorffen darllen un o lyfre Brian Mclaren ac mae wedi bod yn brofiad diddorol dros ben. Er nad ydwyf yn cytuno a phopeth yn y llyfr, wel tipyn yn y llyfr, dwi’n siwr bod e wedi bod yn iach i fi ddarllen ei lyfr diddorol. Un o’r pethau sydd wedi nrysu i mwyaf wrth ddarllen yw tueddiad Brian (first name terms erbyn hyn!) i gwahaniaethu rhwng eu credoau personol a’i ddiwinyddiaeth. I fi mae’r ddau peth yn inseprable ond ma Breian ynllwyddo i rhannu’r ddau. Ee. Mae’n datgan ei fod yn efengylaidd ei gredoau ond yna yn trafod diwinyddiaeth yn nhermau the Abrahamic faiths gan cynnwys Islamiaeth yn y drafodaeth – ac felly yn mynd yn erbyn y safbwynt beiblaidd – Iesu yw’r unig ffordd.

Un adran nath helpu fi lot wrth ddarllen yw esboniod Brei o deyrnas Duw. Mae’n wir i ddweud bod sawl un ohonom ni’n Gristnogion ond yn canolbwyntio ar y nefoedd ac uffern yn lle gweld teyrnas nefoedd a theyrnas tywyllwch fel teyrnasoedd sydd yn bodoli yn y bywyd hwn a’r nesa. Fel Shane Clairbourne mae’n gofyn y cwestiwn os doedd na ddim bywyd tragwyddol a bydde fe’n werth bod yn Gristion? Cwestiwn sydd wedi fy herio i sawl gwaith. Os dwi’n ateb ‘ydy’, a dwi’n meddwl mae ‘ie’ yw’r ateb wedyn mae’n golygu newid radical yn fy ffordd o fyw a falle dod allan o’r comfort zone. Mae’n golygu caru’r byd lot mwy a bod yn weithgar i weld newid. Mae’n golygu newid yn fy syniad o genhadu. A bydd rhaid i fi gyfaddef i Euros Wyn Jones (fy nhiwtor-agos-at-fod-yn-holl-wybodus) mae ef oedd yn iawn! Mae angen mwy o social Gospel yn ein cenhadaeth ni yn lle ei ddefnyddio fel llwyfan i efengylu. Rhwybeth ma Efengyls yn cynnwys fi wedi meddwl dros y blynyddoedd.

Un peth da am y llyfr yw mae’n hawdd i ddarllen, nes si ei darllen hi ar y tren a tra’n iste yn Ruabon Train Station. Darllenwch gwaith B, cwestiynnwch ei waith ond gadewch i’w waith ei gwestiynnu chi.

Sunday 9 November 2008

WEIGHT WATCHERS


Beth sydd yn gwneud i dua 30 o bobl talu £5 i fynd i neuadd cymunedol pob bore dydd mercher? Pam bod weight watchers yn cynyddu o hyd a'n capeli ni yn lleihau yn wythnosol? Dros yr haf pob bore dydd mercher o'n i'n mynd draw i whitchurch i gal fy mhwyso, derbyn tips, sgwrsio a lot o chwerthin. Nes i golli tipyn o bwysau ond nes i hefyd rili mwynhau y sesiynnau a nes i ddod i nabod rhan fwyaf o'r grwp.

ma hyn yn hollol gwahanol i rhan fwyaf o'n capeli ni. ma pobl eisiau mynd i weight watchers, ma pobl yn fodlon talu i fynd i weight watchers. falle gallwn ni dadlau fod pobl ddim eisiau mynd i'r capel oherwydd mae'n anghyfforddus.

Yn capel ma nhw'n trafod be sy'n bod gyda ni a sut ma rhaid i ni newid.
Yn capel ma nhw'n dweud sut dwi ddim yn iawn fel ydw i.
Yn capel ma nhw'n dweud be dwi ddim yn cael neud.

Mae'r pethau yma yn wir am weight watchers hefyd. Ma nhw'n pwyso chi, ma nhw'n dweud wrthoch chi beth i wneud a be dy chi ddim yn cael gwneud. Dylse weight watchers fod yn anghyfforddus - ond dyw e ddim
ma pobl yn fodlon talu i fynd! pam?

un rheswm dwi'n meddwl yw oherwydd bod pawb yn edrych i'r un nod neu'r un gol.
ma pawb yn canolbwyntio gyda'i gilydd ar golli pwysau. Mae pawb yn helpu'w gilydd er mwyn cyrraedd y gol. mae pawb yn checkio fynny i weld sut ma pawb yn neud wrth iddynt fynd at y gol a ma nhw'n neud e mewn ffordd sydd ddim yn feirniadol.

Oes yna lle i ni fel capeli mabwysiadu yr agwedd yma? i ganolbwyntio ar nod neu gol, i lunio gweledigaeth mae'r aelodau i gyd yn deall ac yn gweithio tuag ato, ac i wneud e mewn ffordd sydd ddim yn feirniadol. beth yw gweledigaeth fy nghapel? ydyn ni hyd yn oed yn gwybod? ydy'r person sydd yn eistedd o'm mlaen i gyda'r un weledigaeth?

Mae'n rhaid i ni llunio gweledigaeth gyda'n gilydd, un mae pawb yn cytuno arno ac yn deall, er mwyn i ni gyd symyd yn yr un cyfeiriad ac annog ein gilydd ar y daith. fel yn weight watchers bydd rhaid gwneud hyn mewn camau a dathlu pob llwyddiant wrth iddynt mynd. falle bydd angen un gweledigaeth i'r capel, un arall i bawb yn unigolion, un i'r ysgol sul, un i'r chwiorydd neu'r grwp astudiaeth. os ydyn ni'n llunio gweledigaeth, gallwn ni gyd gweithio tuag ato fe ac efallai ei gyrraedd!

Tuesday 4 November 2008

Don't judge a church by it's service














Wrth i fi fynd ati i feddwl am sut dy ni'n hyrwyddo ein gweithgarwch yma yn Rhos dwi di dechre meddwl am sut ma pobl yn dewis eu capeli. Pan ma rhywun yn symyd i ardal newydd ac yn chwilio am gapel y peth gynta ma nhw'n neud fel arfer di mynd o gwmpas capeli gwahanol am gwpl o suliau cyn dewis pa un i fynd i yn barhaol.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn chwilio am yr addoliad iawn, y steil iawn o bregethu, y gwaith plant gore ayyb, yn lle mynd gyda'r agwedd, 'beth gallai cynnig i'r capel yma?'
Yn lle edrych am eu rol nhw o fewn capel ma nhw'n gweld be mae'r capel yna yn gallu cynnig iddyn nhw.

Mae'r agwedd yma yn un sydd gan lot o Gristnogion. 'Be mae'r capel yn rhoi i fi?' yn hytrach na 'beth dwi'n gallu neud i Dduw fanhyn.?' Pam mae gymaint o bobl yn symyd o un capel i'r llall o hyd? Oherwydd dy nhw ddim yn cael be ma nhw eisiau, yn lle penderfynnu dyma fy nghapel i, dwi mynd i fod yn ffyddlon iddi a gweithio i ogoneddu Duw yn y lle yma.

Dwi'n gallu deall rhesymau rhai sydd wedi gwirioneddol trio bod yn rhan o waith y capel a wedi trio eu gorau i weithio yna ond wedi cael eu hanwybyddu neu eu troi i lawr, am adael, ond ddim rheiny sy'n gadael am rhesymau secondary issue.

Mae yna sawl un yn fy nghapel i adre sydd ddim yn cytuno gyda'r arddull addoli, neu gyda'r dull o arwain neu ymarferiad y doniau ond maent yn aros yn y capel oherwydd dyna'u capel lleol nhw a'r capel maent wedi ymrwymo i fod yn aelod ynddo.

Yn lle rhedeg off i gapel mwy ceidwadol neu i gapel mwy rhydd maent yn aros yn y capel ac felly ma na amrywiaeth iach o Gristnogion yna.

mae'r agwedd yma o gadael capel os chi'n pwdu ychydig bach wedi gadael capeli yn brwydro am Gristnogion, yn trio cael nhw i fewn.

Blwyddyn diwethaf o'n i'n mynd pob dydd sadwrn i Llandudno ar y bws (y number 12 o abergele) i weld Alaw. Pob wythnos o'n i'n mynd heibio capel oedd gyda sign mawr ar y front oedd yn dweud: 'we preach Christ crucified'

pob tro o'n i'n mynd heibio fe o'n i'n meddwl i'n hunain, be di pwynt y sign massive yma ar y front? Ydy e yna i deni rheiny sydd heb ffydd, neu rhywun sydd yn chwilio am atebion i gwestiynnau bywyd?

na, dim ond un rheswm galle na fod am y sign, i deni Cristnogion sydd yn chwilio am gapel newydd.

Dy ni ddim fod i ymdrechu'n galed i ennill Cristnogion i'n aelodaeth ni ond dy ni fod i ymdrechu i rhannu'r efengyl gyda rheiny sydd ddim yn credu, rheiny sydd angen Duw.

Beth yw ein agwedd ni tuag at capel? Ydw i am gyfrannu neu ydw i just am dderbyn a derbyn?

Thursday 30 October 2008

Ar y stryt














Rhywsut yn ddiweddar dwi di troi mewn i fach o evangelism tourist! Pob man dwi’n mynd ma na pobl ar y strydoedd yn pregethu a dwi di dechrau mwynhau bwyta cinio ar y bench agosaf atyn nhw yn gwrando arnynt yn dychmygu fy hunain fel rhyw fath o crytic hunan gyfiawn.
Mae rhaid dweud bod yr esiamplau dwi di dod ar draws wedi bod yn wahanol iawn o rhan cynnwys, techneg a golwg. Mae gwylio’r pregethwyr yn brofiad ond mae cymryd sylw o’r pobl sydd yn cerdded heibio hefyd yn tipyn o hwyl.
Dyma fy adroddiad answyddogol o weithgareddau y pregethwyr dwi wedi dod ar draws, ond yn gynta:

Conffesiwn: Bangor – 2005
Cyn i chi ddarllen y canlynol a meddwl bo fi’n hynod o llym ar y bobl yma, hoffwn i esbonio fy mod i wedi bod yn ei sefyllfa hwy. Ar ol fy mlwyddyn cyntaf yn coleg dyma cwpl ohonom ni yn trefnu mynd ar genhadaeth / ymgyrch i Fangor.
Dyma ni’n penderfynnu gwneud tipyn o waith stryd ar yr ail stryd fawr hira ym Mhrydain. Odd gyda ni darn mawr o bapur a stand er mwyn defnyddio paent a brwsh i esbonio ein neges. Felly dyma ni’n setio’r offer i fynny a paratoi i dechrau pregethu.
Ath pawb yn nerfys a dechrau edrych ar ein gilydd, odd y peth wedi bod mor hawdd yn y practice y noson gynt. Dyma ni i gyd yn edrych ar ein gilydd a penderfynnu newn ni just sefyll ar bwys ein darluniau a gobeithio y byddai rhywun yn dod i siarad i ni.
A fe ddaeth un neu ddau, naethom ni pigo lan un dyn diddorol iawn o’r enw Dave yn ystod yr wythnos. Dyn oedd yn esbonio i ni sut odd e arfer bod yn genhadwr rhwng gofyn am bapurau degpunt. Ond fel ma nhw’n dweud, thats a story for another time – ond ma fe’n un da (gofynnwch i Emyr James).
Dydw i ddim am i chi feddwl bod ein wythnos ym Mangor wedi bod yn gwastraff amser, gafon ni un neu ddau cyfle i rhannu’r Efengyl.
Fi’n cofio un diwrnod fe gafodd techneg efengylu newydd ei ddyfeisio gan fi ac Emyr. Mi oedd ganddo ni sawl copi o’r Testament Newydd Cymraeg gyda ni a dyma ni’n penderfynnu ar techneg pysgota –yn llythrennol!
Ym Mangor ma na meinciau siap hecsagon a dyma fi yn eistedd ar u ochr ac Emyr ar yr ochr arall gyda un ‘ochr’ rhyngthom ni. Ar y darn yma o’r fainc fe rhoddon ni y Testament Newydd. Wedyn dyma ni’n dechrau aros. Arhoson ni am dipyn o amser, y ddau ohonom ni wedi ein cyffrou i weld pwy bydde’n cymryd y bait.
Dyma dyn yn eistedd lawr ac yn pigo’r Beibl i fynny. Wel, fel machine dyma fi ac Emyr yn troi rownd a dechrau holi’r dyn am ei syniadau am Dduw. Fe drodd allan i fod yn un o perthnasau Nantlais (y diwygiwr) a fe gafon ni sgwrs am dipyn. Ond wrth edrych yn ol, mae’r enghraifft yma yn dod a cywilydd i mi. Ma fe’n un o’r amseroedd yna (a mae genai sawl un) lle fi just moin bod yn rhywun arall! Techneg ofnadwy!
Felly dwi ddim am i chi am eiliad meddwl fy mod i yn pwyntio bys, oherwydd fe ddysgodd Mrs Whettleton i mi ym mlwyddyn tri bod na wastad pedwar bys yn pwyntio yn ol.
Felly ar ol y conffession bach yna (a ma na sawl enghraifft arall) mae’n amser i fi gael codi o’r hot seat a rhoi eraill ynddi.

Caer
Dyma fi’n eistedd lawr ar fainc i wylio tîm o efengylwyr yn cymryd eu lle ar y sgwar.
Os os unrhywun wedi dyfeisio time travel nhw sydd wedi gwneud. Odd un o nhw yn edrych fel mae dyma’r tro gynta iddi bod allan mewn golau dydd ers 1983 ac odd y gweddill yn edrych fel bod nhw di bod yn pydru rhywle. O’n i’n teimlo’n sori dors yr unig un oedd wedi cael ei geni ers 1983, oedd yn chwarae’r gitar tra bod un yn chwarae mandolin a’r llall y recorder tac un neu ddau yn canu The Lord is my Sheppherd.
Ar ol y gan camodd un o nhw mlaen i rhoi rhyw neges a dyma nhw’n gweiddi’r neges mas dros pennau pawb oedd yn mynd heibio.
Nath neb stopio, odd pawb yn edrych y ffordd arall tra bod eraill yn troi ac yn cerdded y ffordd arall! Wrth i fy gwylio dyma’r prif pregethwr yn gweld rhywun odd e’n nabod yn cerdded heibio a dyma fe’n dechrau bendithio nhw, wrth i nhw cerdded off yn embarassed.
Wrth i ni cerdded ymlaen dyma ni’n dod ar draws rhywun oedd yn edrych lot mwy hwyl. Yna yn canol y ffordd gyda sign bach melyn oedd dyn du yn dawnsio ac yn defnyddio ei Feibl fel offeryn taro tra’n canu ei neges yn uchel ar draws y stryd. Dwim yn siwr beth odd e’n trio dweud, ac mi ydwi i wedi clywed yr Efengyl o’r blaen!
O’i cwmpas odd na grwp o bois ifanc yn ei outfits emo-aidd yn dawnsio ac yn clapio gyda fe. Dwim yn siwr os oedd ganddynt diddordeb yn yr Efengyl neu os oeddynt yn gwneud sbort ar ben y boi. I rheina sy’n byw yng Nghaerdydd mi fydde chi’n deall pan dwi’n dweud mae dyma Toy Mic Trev y byd Cristnogol.
Ond chwarae teg iddo fe odd e i weld bod e’n cael lot mwy o hwyl a lot mwy o sbri na’i brodyr a chwiorydd lan y ffordd.

Abertawe
Does na ddim lot o frodorion Caerdyddwyr sydd yn gwneud y daith heibio Port Talbot i Abertawe. Ond ddoe es i ar drip gyda fy ffrind Baz draw i ddinas is-raddol De Cymru. Mae rhaid i fi cyfaddef nes i mwynhau fy hunain lot, ac unwaith eto dyma fi’n ffindio fy hunain yn gwylio pregethwyr ar y stryd.
Yr un gynta gwelais i oedd rhyw dyn ifanc oedd wedi coolify-o ei hunain gymaint odd e’n edrych llai fel rhywbeth o’r gorffennol ond fel rhywbeth o’r dyfodol.
Odd e di prynnu stol bach plastig o Poundland – neu o 99pLand (sydd yn bodoli yn Swansea!) ac mi oedd e’n sefyll ar ben y stol yn gweiddi am sut ma cerddoriaeth pop yn chwalu ein pennau.
Mi oedd yna un neu ddau yn sefyll o gwmpas yn gwrando ond yn anffodus ma rhaid i fi ddweud bod y cool image ddim wedi denu sawl un o pobl Uber-Cool Abertawe ond dwi’n siwr bydde Gok Wan wedi bod yn genfigennus o synnwyr ffasiwn y pregethwr.
Ar ol i fi fynd rownd am dro rownd y farchnad a prynnu baguette (mixed cheese a spring onion) es i i eistedd lawr wrth yr eglwys anglicanaidd i fwyta. Tra’n eistedd yna nes i glywed llais yn dod o rhywle oedd yn swnio fel tour guide ar un o’r bysiau’r henoed.
Pan droais i rownd i weld pwy oedd dyma fi’n gweld menyw bach swil yn sefyll wrth y wal gyda meicraffon yn darllen rhywbeth off rhyw ddarn o bapur tra odd ei ffrind hi yn sefyll gyda un o’r shopping bags yna gyda olwynion (y rhai tartan legendary!) yn handio allan tracts oedd yn edrych fel bod rhywun wedi defnyddio bag te i wneud nhw edrych yn hen.
Does genaim syniad beth dywedodd hi, mi oedd hi’n rhy dawel i ddeall a’r PA yn rhy distorted.
Wrth i fi byta fy maguette dyma fi’n dechrau gwrando ar sgwrs y pobl drws nesaf i fi. Dyma un fenyw yn troi at ei gwr a dweud,
“Mae’n iawn ti’n gwybod bydd Iesu yn dod nol cyn bo hir!”
Nes i feddwl i’n hunain mae rhaid bod hon yn deall rhywbeth o beth oedd yn cael ei ddweud.
“Ie, ma nhw’n dweud bod na mynd i fod rhyw fath o credit crunch cyn yr ail dyfodiad.”
Odd rhaid i fi feddwli’n hunain bod darllen y fenyw ar y meicraffon wedi helpu Cristion i ddod i rhyw safbwynt obscure ond falle doedd hi ddim mor effeithiol at cyrraedd rheina sydd ddim yn credu.

Gwersi
Y peth mwyaf amlwg wrth edrych ar y bobl yma oedd y ffaith bod neb, yn cynnwys fi gyda syniad am beth o nhw’n siarad. Yn y Testament Newydd dy ni’n dod ar draws yr adnod, how can they believe without hearing? Ac mae’n cwestiwn digon teg i ofyn i’r enghreifftiau uchod.
Doedd neb yn deall beth oedd yn mynd ymlaen. Roedd y siaradwr yn rhy swil, yn rhy dawel, yn aneglur neu ddim yn defnyddio ei synnwyr cyffredin.
Os does neb yn stopio i wrando, beth yw’r pwynt? Does yna ddim pwynt pregethu ymlaen ac ymlaen pan mae’r pobl sydd yn cerdded heibio yn clywed llai nag un brawddeg os unrhywbeth o gwbl. Mae sefyll fynny gyda’r agwedd “dwi mynd i pregethu anyway” yn pointless. Falle o’n nhw’n mynd am y Francis of Asisi approach ac yn pregethu i’r pigeons o’u hamgylch.
Fy marn i yw os does neb yn gwrando, beth yw’r pwynt gweiddi ar draws y strydoedd?
Bydde fe wedi bod yn diddorol i weld pa fath o ymateb byddai’r pregethwyr wedi cael os oedden nhw wedi mynd at y bobl o’u hamgylch i sgwrsio gyda nhw. Os oedden nhw wedi cymryd pum munud i ddangos bod gyda nhw diddordeb mewn rhywun, sgwn i os bydde’r person yna wedi bod yn fodlon cymryd diddordeb yn neges yr Efengyl?
Ydy e’n syniad rhy radical i ddechrau cymryd diddordeb mewn pobl? I adael i’r bobl gofyn cwestiynnau, rhoi barn, trafod y ffydd? Ydyn ni’n rhy ofnus o bobl yn anghytuno gyda ni. Os rhaid i ni amddiffyn yr Efengyl neu ydy Iesu yn digon alluog i wneud?
Hefyd mae angen bod yn berthnasol. Mae yna grwp o activists yn sefyll tu fas i farchnad Caerdydd weithiau (y fyddin coch neu rhywbeth?!) ac ma nhw’n canu caneuon protest. Ma nhw’n canu’r gan “We are marching, we are marching oooo, we are marching in the name of peace”. Ac wedyn maent yn canu “gorymdeithiwn.....” Mae rhaid i fi cyfaddef bod y gân yma yn gwneud i fi chwerthin mwy nag unrhywbeth arall a dyw e ddim yn gwneud i fi gymryd nhw o ddifri. Fel arfer dwi’n aros i wylio am ychydig tan bod drewdod y siop pysgod yn gyrru fi o na.
Mae’r u n peth yn wir am y grwp yn canu ei fersiwn o Salm 23. Sneb tu fas i waliau capeli semi-carasmataidd wyth-degaidd ei naws yn gwybod y gan. Yn sicr dyw rheina sydd yn siopa yng Nghaer ar ddydd Sadwrn ddim yn gwybod y cân. Dwi ddim yn sôn am fod yn cwl dwi’n sôn am gyfarthrebu mewn ffordd perthnasol. Os dy ni ddim yn perthnasol, mae’n gwaith ni yn pointless a just yn neud ni edrych yn weird.

Wednesday 29 October 2008

Back on the scene

Mae di bod yn sbel ers i fi blogio diwethaf, a dwi'n siwr bod e'n amser i ailddechrau fy ymgyrch i gymryd teitl rhys llwyd am 'the most read blog' oddiwrtho fe. Ers tro diwethaf fi di cyrraedd Rhosllanerchrugog (wel Ponciau i fod yn onest) a di dechrau gweithio gyda'r Bedyddwyr a'r Annibynwyr yma.

fy hoff air so far di HWS (punch) a nath hi actually ODI (bwrw eira) heddiw!

Ers cychwyn yma'n rhos dy ni di dechrau clwb plant, clwb ieuenctid a seiat wythnosol (grwp bywyd) ac mae'r niferoedd wedi bod yn dda iawn ym mhob un. Croeso i chi dod draw i ymuno gyda ni os chi moin!

na ddigon am nawr! TARA! DEREk