Thursday 30 October 2008

Ar y stryt














Rhywsut yn ddiweddar dwi di troi mewn i fach o evangelism tourist! Pob man dwi’n mynd ma na pobl ar y strydoedd yn pregethu a dwi di dechrau mwynhau bwyta cinio ar y bench agosaf atyn nhw yn gwrando arnynt yn dychmygu fy hunain fel rhyw fath o crytic hunan gyfiawn.
Mae rhaid dweud bod yr esiamplau dwi di dod ar draws wedi bod yn wahanol iawn o rhan cynnwys, techneg a golwg. Mae gwylio’r pregethwyr yn brofiad ond mae cymryd sylw o’r pobl sydd yn cerdded heibio hefyd yn tipyn o hwyl.
Dyma fy adroddiad answyddogol o weithgareddau y pregethwyr dwi wedi dod ar draws, ond yn gynta:

Conffesiwn: Bangor – 2005
Cyn i chi ddarllen y canlynol a meddwl bo fi’n hynod o llym ar y bobl yma, hoffwn i esbonio fy mod i wedi bod yn ei sefyllfa hwy. Ar ol fy mlwyddyn cyntaf yn coleg dyma cwpl ohonom ni yn trefnu mynd ar genhadaeth / ymgyrch i Fangor.
Dyma ni’n penderfynnu gwneud tipyn o waith stryd ar yr ail stryd fawr hira ym Mhrydain. Odd gyda ni darn mawr o bapur a stand er mwyn defnyddio paent a brwsh i esbonio ein neges. Felly dyma ni’n setio’r offer i fynny a paratoi i dechrau pregethu.
Ath pawb yn nerfys a dechrau edrych ar ein gilydd, odd y peth wedi bod mor hawdd yn y practice y noson gynt. Dyma ni i gyd yn edrych ar ein gilydd a penderfynnu newn ni just sefyll ar bwys ein darluniau a gobeithio y byddai rhywun yn dod i siarad i ni.
A fe ddaeth un neu ddau, naethom ni pigo lan un dyn diddorol iawn o’r enw Dave yn ystod yr wythnos. Dyn oedd yn esbonio i ni sut odd e arfer bod yn genhadwr rhwng gofyn am bapurau degpunt. Ond fel ma nhw’n dweud, thats a story for another time – ond ma fe’n un da (gofynnwch i Emyr James).
Dydw i ddim am i chi feddwl bod ein wythnos ym Mangor wedi bod yn gwastraff amser, gafon ni un neu ddau cyfle i rhannu’r Efengyl.
Fi’n cofio un diwrnod fe gafodd techneg efengylu newydd ei ddyfeisio gan fi ac Emyr. Mi oedd ganddo ni sawl copi o’r Testament Newydd Cymraeg gyda ni a dyma ni’n penderfynnu ar techneg pysgota –yn llythrennol!
Ym Mangor ma na meinciau siap hecsagon a dyma fi yn eistedd ar u ochr ac Emyr ar yr ochr arall gyda un ‘ochr’ rhyngthom ni. Ar y darn yma o’r fainc fe rhoddon ni y Testament Newydd. Wedyn dyma ni’n dechrau aros. Arhoson ni am dipyn o amser, y ddau ohonom ni wedi ein cyffrou i weld pwy bydde’n cymryd y bait.
Dyma dyn yn eistedd lawr ac yn pigo’r Beibl i fynny. Wel, fel machine dyma fi ac Emyr yn troi rownd a dechrau holi’r dyn am ei syniadau am Dduw. Fe drodd allan i fod yn un o perthnasau Nantlais (y diwygiwr) a fe gafon ni sgwrs am dipyn. Ond wrth edrych yn ol, mae’r enghraifft yma yn dod a cywilydd i mi. Ma fe’n un o’r amseroedd yna (a mae genai sawl un) lle fi just moin bod yn rhywun arall! Techneg ofnadwy!
Felly dwi ddim am i chi am eiliad meddwl fy mod i yn pwyntio bys, oherwydd fe ddysgodd Mrs Whettleton i mi ym mlwyddyn tri bod na wastad pedwar bys yn pwyntio yn ol.
Felly ar ol y conffession bach yna (a ma na sawl enghraifft arall) mae’n amser i fi gael codi o’r hot seat a rhoi eraill ynddi.

Caer
Dyma fi’n eistedd lawr ar fainc i wylio tîm o efengylwyr yn cymryd eu lle ar y sgwar.
Os os unrhywun wedi dyfeisio time travel nhw sydd wedi gwneud. Odd un o nhw yn edrych fel mae dyma’r tro gynta iddi bod allan mewn golau dydd ers 1983 ac odd y gweddill yn edrych fel bod nhw di bod yn pydru rhywle. O’n i’n teimlo’n sori dors yr unig un oedd wedi cael ei geni ers 1983, oedd yn chwarae’r gitar tra bod un yn chwarae mandolin a’r llall y recorder tac un neu ddau yn canu The Lord is my Sheppherd.
Ar ol y gan camodd un o nhw mlaen i rhoi rhyw neges a dyma nhw’n gweiddi’r neges mas dros pennau pawb oedd yn mynd heibio.
Nath neb stopio, odd pawb yn edrych y ffordd arall tra bod eraill yn troi ac yn cerdded y ffordd arall! Wrth i fy gwylio dyma’r prif pregethwr yn gweld rhywun odd e’n nabod yn cerdded heibio a dyma fe’n dechrau bendithio nhw, wrth i nhw cerdded off yn embarassed.
Wrth i ni cerdded ymlaen dyma ni’n dod ar draws rhywun oedd yn edrych lot mwy hwyl. Yna yn canol y ffordd gyda sign bach melyn oedd dyn du yn dawnsio ac yn defnyddio ei Feibl fel offeryn taro tra’n canu ei neges yn uchel ar draws y stryd. Dwim yn siwr beth odd e’n trio dweud, ac mi ydwi i wedi clywed yr Efengyl o’r blaen!
O’i cwmpas odd na grwp o bois ifanc yn ei outfits emo-aidd yn dawnsio ac yn clapio gyda fe. Dwim yn siwr os oedd ganddynt diddordeb yn yr Efengyl neu os oeddynt yn gwneud sbort ar ben y boi. I rheina sy’n byw yng Nghaerdydd mi fydde chi’n deall pan dwi’n dweud mae dyma Toy Mic Trev y byd Cristnogol.
Ond chwarae teg iddo fe odd e i weld bod e’n cael lot mwy o hwyl a lot mwy o sbri na’i brodyr a chwiorydd lan y ffordd.

Abertawe
Does na ddim lot o frodorion Caerdyddwyr sydd yn gwneud y daith heibio Port Talbot i Abertawe. Ond ddoe es i ar drip gyda fy ffrind Baz draw i ddinas is-raddol De Cymru. Mae rhaid i fi cyfaddef nes i mwynhau fy hunain lot, ac unwaith eto dyma fi’n ffindio fy hunain yn gwylio pregethwyr ar y stryd.
Yr un gynta gwelais i oedd rhyw dyn ifanc oedd wedi coolify-o ei hunain gymaint odd e’n edrych llai fel rhywbeth o’r gorffennol ond fel rhywbeth o’r dyfodol.
Odd e di prynnu stol bach plastig o Poundland – neu o 99pLand (sydd yn bodoli yn Swansea!) ac mi oedd e’n sefyll ar ben y stol yn gweiddi am sut ma cerddoriaeth pop yn chwalu ein pennau.
Mi oedd yna un neu ddau yn sefyll o gwmpas yn gwrando ond yn anffodus ma rhaid i fi ddweud bod y cool image ddim wedi denu sawl un o pobl Uber-Cool Abertawe ond dwi’n siwr bydde Gok Wan wedi bod yn genfigennus o synnwyr ffasiwn y pregethwr.
Ar ol i fi fynd rownd am dro rownd y farchnad a prynnu baguette (mixed cheese a spring onion) es i i eistedd lawr wrth yr eglwys anglicanaidd i fwyta. Tra’n eistedd yna nes i glywed llais yn dod o rhywle oedd yn swnio fel tour guide ar un o’r bysiau’r henoed.
Pan droais i rownd i weld pwy oedd dyma fi’n gweld menyw bach swil yn sefyll wrth y wal gyda meicraffon yn darllen rhywbeth off rhyw ddarn o bapur tra odd ei ffrind hi yn sefyll gyda un o’r shopping bags yna gyda olwynion (y rhai tartan legendary!) yn handio allan tracts oedd yn edrych fel bod rhywun wedi defnyddio bag te i wneud nhw edrych yn hen.
Does genaim syniad beth dywedodd hi, mi oedd hi’n rhy dawel i ddeall a’r PA yn rhy distorted.
Wrth i fi byta fy maguette dyma fi’n dechrau gwrando ar sgwrs y pobl drws nesaf i fi. Dyma un fenyw yn troi at ei gwr a dweud,
“Mae’n iawn ti’n gwybod bydd Iesu yn dod nol cyn bo hir!”
Nes i feddwl i’n hunain mae rhaid bod hon yn deall rhywbeth o beth oedd yn cael ei ddweud.
“Ie, ma nhw’n dweud bod na mynd i fod rhyw fath o credit crunch cyn yr ail dyfodiad.”
Odd rhaid i fi feddwli’n hunain bod darllen y fenyw ar y meicraffon wedi helpu Cristion i ddod i rhyw safbwynt obscure ond falle doedd hi ddim mor effeithiol at cyrraedd rheina sydd ddim yn credu.

Gwersi
Y peth mwyaf amlwg wrth edrych ar y bobl yma oedd y ffaith bod neb, yn cynnwys fi gyda syniad am beth o nhw’n siarad. Yn y Testament Newydd dy ni’n dod ar draws yr adnod, how can they believe without hearing? Ac mae’n cwestiwn digon teg i ofyn i’r enghreifftiau uchod.
Doedd neb yn deall beth oedd yn mynd ymlaen. Roedd y siaradwr yn rhy swil, yn rhy dawel, yn aneglur neu ddim yn defnyddio ei synnwyr cyffredin.
Os does neb yn stopio i wrando, beth yw’r pwynt? Does yna ddim pwynt pregethu ymlaen ac ymlaen pan mae’r pobl sydd yn cerdded heibio yn clywed llai nag un brawddeg os unrhywbeth o gwbl. Mae sefyll fynny gyda’r agwedd “dwi mynd i pregethu anyway” yn pointless. Falle o’n nhw’n mynd am y Francis of Asisi approach ac yn pregethu i’r pigeons o’u hamgylch.
Fy marn i yw os does neb yn gwrando, beth yw’r pwynt gweiddi ar draws y strydoedd?
Bydde fe wedi bod yn diddorol i weld pa fath o ymateb byddai’r pregethwyr wedi cael os oedden nhw wedi mynd at y bobl o’u hamgylch i sgwrsio gyda nhw. Os oedden nhw wedi cymryd pum munud i ddangos bod gyda nhw diddordeb mewn rhywun, sgwn i os bydde’r person yna wedi bod yn fodlon cymryd diddordeb yn neges yr Efengyl?
Ydy e’n syniad rhy radical i ddechrau cymryd diddordeb mewn pobl? I adael i’r bobl gofyn cwestiynnau, rhoi barn, trafod y ffydd? Ydyn ni’n rhy ofnus o bobl yn anghytuno gyda ni. Os rhaid i ni amddiffyn yr Efengyl neu ydy Iesu yn digon alluog i wneud?
Hefyd mae angen bod yn berthnasol. Mae yna grwp o activists yn sefyll tu fas i farchnad Caerdydd weithiau (y fyddin coch neu rhywbeth?!) ac ma nhw’n canu caneuon protest. Ma nhw’n canu’r gan “We are marching, we are marching oooo, we are marching in the name of peace”. Ac wedyn maent yn canu “gorymdeithiwn.....” Mae rhaid i fi cyfaddef bod y gân yma yn gwneud i fi chwerthin mwy nag unrhywbeth arall a dyw e ddim yn gwneud i fi gymryd nhw o ddifri. Fel arfer dwi’n aros i wylio am ychydig tan bod drewdod y siop pysgod yn gyrru fi o na.
Mae’r u n peth yn wir am y grwp yn canu ei fersiwn o Salm 23. Sneb tu fas i waliau capeli semi-carasmataidd wyth-degaidd ei naws yn gwybod y gan. Yn sicr dyw rheina sydd yn siopa yng Nghaer ar ddydd Sadwrn ddim yn gwybod y cân. Dwi ddim yn sôn am fod yn cwl dwi’n sôn am gyfarthrebu mewn ffordd perthnasol. Os dy ni ddim yn perthnasol, mae’n gwaith ni yn pointless a just yn neud ni edrych yn weird.

Wednesday 29 October 2008

Back on the scene

Mae di bod yn sbel ers i fi blogio diwethaf, a dwi'n siwr bod e'n amser i ailddechrau fy ymgyrch i gymryd teitl rhys llwyd am 'the most read blog' oddiwrtho fe. Ers tro diwethaf fi di cyrraedd Rhosllanerchrugog (wel Ponciau i fod yn onest) a di dechrau gweithio gyda'r Bedyddwyr a'r Annibynwyr yma.

fy hoff air so far di HWS (punch) a nath hi actually ODI (bwrw eira) heddiw!

Ers cychwyn yma'n rhos dy ni di dechrau clwb plant, clwb ieuenctid a seiat wythnosol (grwp bywyd) ac mae'r niferoedd wedi bod yn dda iawn ym mhob un. Croeso i chi dod draw i ymuno gyda ni os chi moin!

na ddigon am nawr! TARA! DEREk