Monday 8 December 2008

cristnogaeth21.org

"If you take the Christ out of Christian - you're left with Ian."


Sdim byd gwaeth na cael eich gwahodd rownd i dŷ rhywun am fowlen o gawl (neu lob sgows) a pan chi’n cyrraedd sdim cig yn y cawl, just llysie yn nofio mewn dwr llwyd suspicious. Wel i fod yn onest ma na lot o bethe gwath, ond mae’n dod yn uchel ar fy rhestr o siomedigaethau.

Dyma sut o’n i’n teimlo ar ôl darllen erthygl am Iesu ar y wefan Cristnogaeth 21. Mae’r erthygl am Iesu yn son am ei ddynolrwydd, gan ddweud ei fod yn bererin doeth ond yn amau y ffaith ei fod yn Dduw. Yn yr un ffordd mae’r erthygl yn amau ysbrydoliaeth yr Ysgrythur gan ddweud fod credu mai Gair Duw yw’r Beibl yn rhyw fath o idol worship.

“Yn hynny o beth rwy wedi teimlo mod i mewn cytgord ag aelodau y Jesus Seminar a sefydlwyd ynghanol yr wythdegau gan Robert Funk a John Dominic Crossan... Y mae mwyafrif y rhai a fu’n gysylltiedig â’r Jesus Seminar dros yr ugain mlynedd diwethaf yn gweld Iesu yn bererin arbennig o ddoeth a galluog. Nid dyn dwyfol a fu farw fel pridwerth dros bechaduriaid. nac ychwaith yn ail berson y Drindod a atgyfodwyd o farw’n fyw.”

“...fe aethon nhw ar eu pen i ddelwaddoliaeth arall sef delwaddoliaeth yr ysgrythur, gan greu eto ryw deml o athrawiaethau am Iesu a oedd yn eu golwg hwy yn gwbl hanfodol i iachawdwriaeth, a’r groes hyd yn oed yn bwysicach na Iesu.”

Fel dwi’n siwr y bydde chi’n cytuno, sdim pwynt bwyta’r cawl heb y cig – mae’r un peth yn wir am syniadau Cristnogaeth21 am Iesu a’r Beibl. Os nad yw Iesu’n Dduw beth yw’r pwynt credu ynddo? Dydw i ddim am eiliad eisiau gwastraffu fy mywyd yn credu mewn pererin doeth o Israel. Ond dwi wedi rhoi fy mywyd i wasanaethu Duw – a Mab Duw nath farw drosta i, oherwydd ei gariad a’i gyfiawnder perffaith.

Yn yr un ffordd dydw i ddim yn gallu dychmygu darllen yr Ysgrythur heb gredu mai Gair Duw ydyw. Mae’r llyfr yn siarad gyda fi o hyd, mae Duw yn defnyddio‘r Beibl i siarad gyda mi am bob agwedd o fy mywyd ac i ddod a mi yn agosach ato Fe.

Os nad yw’r pethau ma’n wir, mae Cristnogaeth yn cwympo’n ddarnau. Iesu Grist yn colli ei ddwyfoldeb – proffwydoliaethau’r proffwydi yn yr Hen Destament yn gelwydd hynod o coincidental– y Beibl yn colli ei hawl i fod yn Air Duw- y Drindod yn cael eu diddymu – yn sydyn mae’r rhan fwyaf o’r ffydd Cristnogol wedi’i daflu i’r recycle bin a’r sŵn crunch na’n dod wrth i rhywun ei wagio.

Mae tynnu Crist allan o Gristnogaeth fel tynnu’r cig allan o’r cawl – mae’n useless.

O.N. ymddiheuriadau i unrhyw lysieuwr sy’n darllen. Newidiwch y darlun i nut roast heb gnau!

Un comment diddorol arall yw bod aelodau ein capeli ni a pobl yn gyffredinol methu credu yn Iesu sydd yn Dduw a dyna pam dy ni wedi colli fy ngenhedlaeth i a'r un cynt. Mae angen gofyn y cwestiwn pam mai’r capeli sy’n addoli Iesu fel Arglwydd, Gwaredwr a Duw yw’r rhai sy’n tyfu yma yng Nghymru? Pam mai’r rhai sy’n dal at gredoau’r Ysgrythur sydd yn tyfu ac yn gweld ffrwyth?


Dwi'n darllen llyfr gan Bill Hybels a Ken Blanchard ar gyfer fy nghwrs a dwi di dod ar draws stori am gymeriad o'r enw Carla,

"Carla became increasingly uncomfortable with their weekly trip to church. For one thing, she felt that something was missing in the pastor's messages... God was mentioned in only a remote way, and Jesus was portrayed as a mystical figure about whom controversy still raged. The Bible was referred to, but copies were not visible - except for the large ornamental version displayed on the altar. She couldn't quite put her finger on what was wrong, but Carla knew there must be something more to a religious experience than what they were experiencing."

sound familiar? mae'n edrych fel bod rhywun wedi bod yn dwyn y cig o cawl Carla hefyd!

Crefydd go iawn - Iesu Grist go iawn - Ysgrythur go iawn

ma unrhywbeth arall yn ddibwynt, ac yn wastraff amser. Peidiwch a trio dyfeisio eich Iesu delfrydol. Mae'r un sydd yn bodoli eisioes werth nabod!

Tuesday 2 December 2008

Breian a Fi



Dwi newydd gorffen darllen un o lyfre Brian Mclaren ac mae wedi bod yn brofiad diddorol dros ben. Er nad ydwyf yn cytuno a phopeth yn y llyfr, wel tipyn yn y llyfr, dwi’n siwr bod e wedi bod yn iach i fi ddarllen ei lyfr diddorol. Un o’r pethau sydd wedi nrysu i mwyaf wrth ddarllen yw tueddiad Brian (first name terms erbyn hyn!) i gwahaniaethu rhwng eu credoau personol a’i ddiwinyddiaeth. I fi mae’r ddau peth yn inseprable ond ma Breian ynllwyddo i rhannu’r ddau. Ee. Mae’n datgan ei fod yn efengylaidd ei gredoau ond yna yn trafod diwinyddiaeth yn nhermau the Abrahamic faiths gan cynnwys Islamiaeth yn y drafodaeth – ac felly yn mynd yn erbyn y safbwynt beiblaidd – Iesu yw’r unig ffordd.

Un adran nath helpu fi lot wrth ddarllen yw esboniod Brei o deyrnas Duw. Mae’n wir i ddweud bod sawl un ohonom ni’n Gristnogion ond yn canolbwyntio ar y nefoedd ac uffern yn lle gweld teyrnas nefoedd a theyrnas tywyllwch fel teyrnasoedd sydd yn bodoli yn y bywyd hwn a’r nesa. Fel Shane Clairbourne mae’n gofyn y cwestiwn os doedd na ddim bywyd tragwyddol a bydde fe’n werth bod yn Gristion? Cwestiwn sydd wedi fy herio i sawl gwaith. Os dwi’n ateb ‘ydy’, a dwi’n meddwl mae ‘ie’ yw’r ateb wedyn mae’n golygu newid radical yn fy ffordd o fyw a falle dod allan o’r comfort zone. Mae’n golygu caru’r byd lot mwy a bod yn weithgar i weld newid. Mae’n golygu newid yn fy syniad o genhadu. A bydd rhaid i fi gyfaddef i Euros Wyn Jones (fy nhiwtor-agos-at-fod-yn-holl-wybodus) mae ef oedd yn iawn! Mae angen mwy o social Gospel yn ein cenhadaeth ni yn lle ei ddefnyddio fel llwyfan i efengylu. Rhwybeth ma Efengyls yn cynnwys fi wedi meddwl dros y blynyddoedd.

Un peth da am y llyfr yw mae’n hawdd i ddarllen, nes si ei darllen hi ar y tren a tra’n iste yn Ruabon Train Station. Darllenwch gwaith B, cwestiynnwch ei waith ond gadewch i’w waith ei gwestiynnu chi.