Friday 16 January 2009

waterstones, wicca a wonderings


dwi'n licio mynd i waterstones ffindio'r adran diwinyddiaeth - sydd nawr yn cael ei alw yn body, mind and soul - a gweld pa llyfrau Cristnogol sydd yna. roedd yna tri set o sliffoedd i'r adran roedd Cristnogaeth yn cymryd i fyny tua 10% o'r alotted space yma - ac i fod yn onest mi oedd crefyddau'r byd ond yn cymryd i fyny 20%. Roedd y gweddill wedi cael ei neud lan allan o lyfrau am wicca, tarot, crystals a hyd yn oed llyfr am aethist spirituality - being spiritual without God!

dwi ddim yn cwyno - chware teg i waterstones ma nhw'n gwerthu be sy'n gwerthu! Ond mae'n dangos i ni sut ma pobl ein cymdeithas ni yn meddwl. mae gan llawer mwy o bobl diddordeb mewn llyfrau ar ysbrydolrwydd (spirituality?) na sydd gennyn nhw yn crefydd neu Cristnogaeth.

mae'n rhaid ychwanegu bod llyfr Richard Dawkins yn cael ei gwthio i cornel bach gan y llyfrau yma. mae hyn yn newyddion da i'r Cristion.

mae gan pobl diddordeb yn yr ysbrydol - ma nw'n chwilio. Ma nhw'n chwilio am rhywbeth mwy. Geith Dawkins mynd ymlaen i gredu bod pobl eisau dad-profi Duw - tra bod silffoedd waterstones yn awgrymu mae ceisio darganfod Duw ma'n nhw.

mae'n dda bod pobl yn chwilio ond yn anffodus ar hyn o bryd maent yn cael eu cynnig- a dwi'n cymryd bod pobl yn prynnu llyfrau am bethau tywyll iawn - pethau peryglus iawn.

pam nad yw pobl yn ffindio spirituality yng Nghristnogaeth?

oherwydd maent yn gweld capeli llawn traddodiadau a hierarchaidd - y gwrthwineb i be ma pobl yn edrych am. maent yn gweld power struggles, diffyg cariad - i eraill ac i Duw, enwadaeth outdated a sefydliad hollol amherthnasol i'w bywydau.

Maent yn chwilio am ysbrydolrwydd, ond ydyn ni wedi colli unrhyw fath o ysbrydolrwydd o'n capeli ni?

Monday 12 January 2009

Scotch Baps


Doedd na ddim henuriaid ar gael i bregethu i Bedyddwyr Albanaidd Rhos heddiw felly dyma nhw'n dod atnom ni ym Mhenuel. Braf oedd cael eu cwmni. Ma nhw'n pobl anhygoel. Pan dwi'n gofyn i bobl troi at adnod penodol yn yr astudiaeth mae'n nhw'n gallu dyfynnu yr adnod heb droi. Mae ei Feiblau yn well read ac yn well memorized.

Syndod oedd clywed heddiw mae un o'u cynulleidfa nhw, o dan eu bendith, nath plannu Gabalfa Baptist, Caerdydd - sydd rownd y cornel o le o'n i'n byw. Mwy o syndod oedd clywed bod yr aelodau wedi bod yn ffrinidau personol i Gladys Aylward - y cenhades yn Tseina. (ma na ffilm amdani - Inn of the Sixth Happiness)!!


falle bod y ffeithiau yma yn hollol boring i bawb arall - ond dim ond fi sy'n darllen y blog yma - so sdim ots! Fi' ffindio nhw'n diddorol.

Hefyd dwi'n hyd yn oed mwy chuffed heddiw oherwydd nes i weld clip cymraeg ei iaith ar You've Been Framed - a good day.

Saturday 3 January 2009

Ni 'di cael cam


Mae'n rhaid i fi cyfaddef mae un o fy hoff rhaglenni teledu i yw Britain's got talent. Ac ar new years day eisteddais i lawr i wylio the best and worst bits gan canolbwyntio mwya ar y worst bits!

Dwim yn gwybod os oes unrhyw un arall wedi sylwi, ond mae popeth mae Simon Cowell yn gwneud just yn glorified steddfod! ma na rhagbrofion, categories gwahanol, beirniaid a beirniadaethau. y cwestiwn sydd gennyf fi yw: ydyn ni'n cael ein hawlfraint am y peth? Mae'n amlwg bod mr cowell wedi bod i steddfod bach lleol rhywle a wedi meddwl - this is how i make my millions.

well mr cowell we want our millions back - neu newn ni anfon ysgol glanaethwy ar dy ol! Then you'll be sorry

Ond hefyd - beth am i ni mabwysiadu rhai o'i syniadau. buzzers mawr siap X yn y pafiliwn? gadael i'r rhai awful mynd i'r llwyfan er mwyn i ni gal laff? piers morgan yn beirniadu y dawnsio disgo? sounds good to me.