Sunday 9 November 2008

WEIGHT WATCHERS


Beth sydd yn gwneud i dua 30 o bobl talu £5 i fynd i neuadd cymunedol pob bore dydd mercher? Pam bod weight watchers yn cynyddu o hyd a'n capeli ni yn lleihau yn wythnosol? Dros yr haf pob bore dydd mercher o'n i'n mynd draw i whitchurch i gal fy mhwyso, derbyn tips, sgwrsio a lot o chwerthin. Nes i golli tipyn o bwysau ond nes i hefyd rili mwynhau y sesiynnau a nes i ddod i nabod rhan fwyaf o'r grwp.

ma hyn yn hollol gwahanol i rhan fwyaf o'n capeli ni. ma pobl eisiau mynd i weight watchers, ma pobl yn fodlon talu i fynd i weight watchers. falle gallwn ni dadlau fod pobl ddim eisiau mynd i'r capel oherwydd mae'n anghyfforddus.

Yn capel ma nhw'n trafod be sy'n bod gyda ni a sut ma rhaid i ni newid.
Yn capel ma nhw'n dweud sut dwi ddim yn iawn fel ydw i.
Yn capel ma nhw'n dweud be dwi ddim yn cael neud.

Mae'r pethau yma yn wir am weight watchers hefyd. Ma nhw'n pwyso chi, ma nhw'n dweud wrthoch chi beth i wneud a be dy chi ddim yn cael gwneud. Dylse weight watchers fod yn anghyfforddus - ond dyw e ddim
ma pobl yn fodlon talu i fynd! pam?

un rheswm dwi'n meddwl yw oherwydd bod pawb yn edrych i'r un nod neu'r un gol.
ma pawb yn canolbwyntio gyda'i gilydd ar golli pwysau. Mae pawb yn helpu'w gilydd er mwyn cyrraedd y gol. mae pawb yn checkio fynny i weld sut ma pawb yn neud wrth iddynt fynd at y gol a ma nhw'n neud e mewn ffordd sydd ddim yn feirniadol.

Oes yna lle i ni fel capeli mabwysiadu yr agwedd yma? i ganolbwyntio ar nod neu gol, i lunio gweledigaeth mae'r aelodau i gyd yn deall ac yn gweithio tuag ato, ac i wneud e mewn ffordd sydd ddim yn feirniadol. beth yw gweledigaeth fy nghapel? ydyn ni hyd yn oed yn gwybod? ydy'r person sydd yn eistedd o'm mlaen i gyda'r un weledigaeth?

Mae'n rhaid i ni llunio gweledigaeth gyda'n gilydd, un mae pawb yn cytuno arno ac yn deall, er mwyn i ni gyd symyd yn yr un cyfeiriad ac annog ein gilydd ar y daith. fel yn weight watchers bydd rhaid gwneud hyn mewn camau a dathlu pob llwyddiant wrth iddynt mynd. falle bydd angen un gweledigaeth i'r capel, un arall i bawb yn unigolion, un i'r ysgol sul, un i'r chwiorydd neu'r grwp astudiaeth. os ydyn ni'n llunio gweledigaeth, gallwn ni gyd gweithio tuag ato fe ac efallai ei gyrraedd!

No comments: