Friday 16 January 2009

waterstones, wicca a wonderings


dwi'n licio mynd i waterstones ffindio'r adran diwinyddiaeth - sydd nawr yn cael ei alw yn body, mind and soul - a gweld pa llyfrau Cristnogol sydd yna. roedd yna tri set o sliffoedd i'r adran roedd Cristnogaeth yn cymryd i fyny tua 10% o'r alotted space yma - ac i fod yn onest mi oedd crefyddau'r byd ond yn cymryd i fyny 20%. Roedd y gweddill wedi cael ei neud lan allan o lyfrau am wicca, tarot, crystals a hyd yn oed llyfr am aethist spirituality - being spiritual without God!

dwi ddim yn cwyno - chware teg i waterstones ma nhw'n gwerthu be sy'n gwerthu! Ond mae'n dangos i ni sut ma pobl ein cymdeithas ni yn meddwl. mae gan llawer mwy o bobl diddordeb mewn llyfrau ar ysbrydolrwydd (spirituality?) na sydd gennyn nhw yn crefydd neu Cristnogaeth.

mae'n rhaid ychwanegu bod llyfr Richard Dawkins yn cael ei gwthio i cornel bach gan y llyfrau yma. mae hyn yn newyddion da i'r Cristion.

mae gan pobl diddordeb yn yr ysbrydol - ma nw'n chwilio. Ma nhw'n chwilio am rhywbeth mwy. Geith Dawkins mynd ymlaen i gredu bod pobl eisau dad-profi Duw - tra bod silffoedd waterstones yn awgrymu mae ceisio darganfod Duw ma'n nhw.

mae'n dda bod pobl yn chwilio ond yn anffodus ar hyn o bryd maent yn cael eu cynnig- a dwi'n cymryd bod pobl yn prynnu llyfrau am bethau tywyll iawn - pethau peryglus iawn.

pam nad yw pobl yn ffindio spirituality yng Nghristnogaeth?

oherwydd maent yn gweld capeli llawn traddodiadau a hierarchaidd - y gwrthwineb i be ma pobl yn edrych am. maent yn gweld power struggles, diffyg cariad - i eraill ac i Duw, enwadaeth outdated a sefydliad hollol amherthnasol i'w bywydau.

Maent yn chwilio am ysbrydolrwydd, ond ydyn ni wedi colli unrhyw fath o ysbrydolrwydd o'n capeli ni?

1 comment:

TheEO said...

This article is full of spelling mistakes. The writer needs to get a good English dictionary.