Monday 12 January 2009

Scotch Baps


Doedd na ddim henuriaid ar gael i bregethu i Bedyddwyr Albanaidd Rhos heddiw felly dyma nhw'n dod atnom ni ym Mhenuel. Braf oedd cael eu cwmni. Ma nhw'n pobl anhygoel. Pan dwi'n gofyn i bobl troi at adnod penodol yn yr astudiaeth mae'n nhw'n gallu dyfynnu yr adnod heb droi. Mae ei Feiblau yn well read ac yn well memorized.

Syndod oedd clywed heddiw mae un o'u cynulleidfa nhw, o dan eu bendith, nath plannu Gabalfa Baptist, Caerdydd - sydd rownd y cornel o le o'n i'n byw. Mwy o syndod oedd clywed bod yr aelodau wedi bod yn ffrinidau personol i Gladys Aylward - y cenhades yn Tseina. (ma na ffilm amdani - Inn of the Sixth Happiness)!!


falle bod y ffeithiau yma yn hollol boring i bawb arall - ond dim ond fi sy'n darllen y blog yma - so sdim ots! Fi' ffindio nhw'n diddorol.

Hefyd dwi'n hyd yn oed mwy chuffed heddiw oherwydd nes i weld clip cymraeg ei iaith ar You've Been Framed - a good day.

1 comment:

Cymro said...

Sut hwyl? Blog dyfyr. Cynulleidfaoedd i'r Bedyddwyr Albaniadd ym Malenau Ffestiniog a Harlech.